Mae ateb posau yn ffordd dda iawn o godi dy safon mewn Gwyddbwyll. Mae pob un o'r posau hyn yn gwneud i ti feddwl yn ddyfnach am beth yw'r symudiad gorau, sut mae darnau'n gweithio gyda'i gilydd, a sut i gynllunio mwy nag un symudiad ar y tro.
Cyfarwyddiadau: Cydia mewn darn (clic chwith a'i ddal) a'i symud i sgwar arall. Os mai hwn yw'r symudiad gorau gallu di symud ymlaen at y nesaf. Os nad hwn yw'r un gorau, fe wneith y wefan ddweud hynny wrthot ti.
| Rhif | Disgrifiad | Symudiad | I symud | Graddfa | Dolen |
| 1 | Ennill darn | 3 | Gwyn | Hawdd | Gweld |
| 2 | Siachmat | 3 | Gwyn | Cymhedrol | Gweld |
| 3 | Siachmat | 3 | Gwyn | Cymhedrol | Gweld |
| 4 | Siachmat | 7 | Gwyn | Anodd | Gweld |
| 5 | Siachmat | 3 | Gwyn | Hawdd | Gweld |
Mae'r tudalennau sy'n cynnwys y posau wedi cael eu profi ac yn gweithio'n iawn gyda porwr Firefox 3 ar sawl system weithredu (Windows, Mac a Linux). Maen nhw'n gweithio'n iawn hefyd gyda Safari (Mac), Google Chrome (Windows), a gyda rhai fersiynau o Internet Explorer (IE7). Nid yw porwr Opera yn medru darllen y tudalennau. Os wyt ti'n cael problem wrth eu darllen, yr ateb yw defnyddio porwr gwe o safon uchel.


