(1.d4 d5 2.c4 dxc4) ECO D20-D29
Mae Gambit y Frenhines yn un o'r agoriadau mwyaf poblogaidd mewn Gwyddbwyll fodern, ac yn un sy'n cael ei ddefnyddio'n eang o lefel clwb i gêmau Uwchfeistri. Drwy gymryd Gwerinwr Gwyn ar c4 mae Du yn derbyn y gambit, ac mae hyn yn arwain at agoriad Gambit y Frenhines wedi ei dderbyn. Mae Gambit y Frenhines wedi ei dderbyn, a'i holl amrywiaethau, yn cael eu cofnodi yn y Gwyddoniadur Agoriadau Gwyddbwyll (ECO) gyda côd rhwng D20 a D29. Nid yw'r agoriad yn gambit mewn gwirionedd gan bod modd i Gwyn ennill y Gwerinwr yn ôl yn gymharol hawdd.
Os nad yw Du'n cymryd y Gwerinwr mae'n chwarae Gambit y Frenhines wedi ei wrthod.
Gambit y Frenhines wedi ei dderbyn: D20 (1,000 gêm)Gambit y Frenhines wedi ei dderbyn: D21 (273 gêm)Gambit y Frenhines wedi ei dderbyn: D22 (302 gêm)Gambit y Frenhines wedi ei dderbyn: D24 (248 gêm)Gambit y Frenhines wedi ei dderbyn: D25 (393 gêm)Gambit y Frenhines wedi ei dderbyn: D26 (333 gêm)Gambit y Frenhines wedi ei dderbyn: D27 (887 gêm)Gambit y Frenhines wedi ei dderbyn: D28 (166 gêm)Gambit y Frenhines wedi ei dderbyn: D29 (153 gêm) | ![]() |



