Gêmau Gwyddbwyll

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size

Agoriad Ruy Lopez (1)

Ruy Lopez

(1.e4 e5 2.Mf3 Mc6 3.Eb5) Côd ECO: C60 i C99

Un o'r agoriadau mwyaf poblogaidd yn hanes Gwyddbwyll yw Agoriad Ruy Lopez. Cafodd ei enwi ar ôl offeiriad Sbaenaidd o'r 16eg ganrif o'r enw Ruy López de Segura wnaeth ysgrifennu un o'r llyfrau cyntaf ar theori Gwyddbwyll. Yn yr agoriad mae Du yn ateb e4 gydag e5 i greu cydraddoldeb yn y canol, ac yn ateb yr ymosodiad ar ei Werinwr gan Farchog Gwyn ar f3 drwy ddatblygu Marchog ar c6 i'w amddiffyn. Drwy chwarae Esgob b5 mae Gwyn yn datblygu darn, yn paratoi i Gastellu, yn bygwth y Marchog, ac yn creu pin posib ar Frenin Du.

Mae gan Du ddewis anferth nawr ar sut mae'n mynd i ymateb i'r agoriad, ac mae'r dewisiadau hyn yn cael eu cofnodi fel amrywiaethau ar yr Agoriad Ruy Lopez yn y Gwyddoniadur Agoriadau Gwyddbwyll (ECO) gyda côd rhwng C60 ac C99. 

Dyma ddau o'r dewisiadau sydd gan Du: Amddiffyniad Berlin ac Amddiffyniad Schliemann.

 

Amddiffyniad Berlin

(1.e4 e5 2.Mf3 Mc6 3.Eb5 Mf6) Côd ECO: C65-67

Un o'r atebion mwyaf cadarn i Agoriad Ruy Lopez yw i ddatblygu'r Marchog ar f6. Yr enw sy'n cael ei roi i'r cyfres yma o symudiadau yw Amddiffyniad Berlin. Ateb Gwyn i hyn fel arfer yw i Gastellu ar ochr y Brenin.

Amddiffyniad Berlin (1,000 gêm)

 Amddiffyniad Berlin

Amddiffyniad Schliemann

(1.e4 e5 2.Mf3 Mc6 3.Eb5 f5!?) Côd ECO: C63

Gydag Amddiffyniad Schliemann mae Du yn mentro drwy geisio agor ffeil f ar gyfer ymosod, ac yn aml bydd yn aberthu Gwerinwr neu ddau yn y broses. Er nad yw pob Uwchfeistr yn cytuno ei fod yn agoriad call i chwarae mae rhai yn ei ddefnyddio fel agoriad annisgwyl.

Amddiffyniad Schliemann (750 gêm)

Amddiffyniad Berlin