Gêmau Gwyddbwyll

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size

Gambit Evans

William Davies Evans

(1.e4 e5 2.Mf3 Mc6 3.Ec4 Ec5 4.b4) Côd ECO: C52

Mae Gambit Evans yn gweithio fel pob gambit arall, sef bod un ochr yn cynnig darn (fel arfer gwerinwr) er mwyn ennill tempo neu safle. Yn Gambit Evans mae gwyn yn cynnig gwerinwr rheng b, a thrwy wneud hynny yn dod i reoli'r sgwariau canol a datblygu ymosodiad cryf ar f7 yn hwyrach yn y gêm. Dyma'r symudiadau: 1.e4 e5 2.Mf3 Mc6 3.Ec4 Ec5 4.b4... fel yn y llun, ac fel arfer ... Exb4 5 c3 Ea5. Os yw Du'n gwrthod 4..Exb4 mae'n colli tempo'n ofnadwy. Yn y gêm wreiddiol rhwng Evans a McDonnell roedd un symudiad arall cyn b4 pan gastellodd y Capten Evans.

Gêmau Gambit Evans (960 gêm)

 Gambit Evans

Gwybodaeth bellach

Yn 1826 cerddodd y Capten William Davies Evans, o Blwyf Sant Degwel ger Hwlffordd, i mewn i Ystafelloedd Gwyddbwyll William Lewis yn St. Martin's Lane, Llundain a chynnig chwarae rhai o chwaraewyr gwyddbwyll cryfa'r dydd. Doedd Evans ddim yn adnabyddus fel chwaraewr gwyddbwyll, ond wedi iddo esbonio pam ei fod am eu chwarae llwyddodd i berswadio A McDonnell i chwarae gêm yn ei erbyn. Roedd McDonnell yn un o'r chwaraewyr gorau gynhyrchodd Iwerddon erioed, ac un o'r cryfaf ym Mhrydain ar y pryd. Gorffennodd y gêm ar yr 20fed symudiad a Chapten Evans yn fuddugol. Dyma ddechrau Gambit Evans sydd wedi cael ei ddefnyddio gan chwaraewyr fel Paul Morphy, Jan Timman, ac yn y 1990au gan Garry Kasparov, yn fwyaf arbennig mewn buddugoliaeth 25 symudiad yn erbyn Viswanathan Anand ym Mhencampwriaeth Goffa Tal yn Riga, 1995.