Viswanathan Anand o India yw Pencampwr Gwyddbwyll y Byd. Yn 6 oed dysgodd ei fam ef i chwarae Gwyddbwyll, ac yn 18 oed ef oedd y person cyntaf o India i dderbyn teitl Uwchfeistr. Daeth yn Bencampwr Gwyddbwyll y Byd FIDE yn 2000 pan oedd y teitl wedi ei rannu rhwng teitl FIDE a theitl Gwyddbwyll Glasurol grewyd gan Kasparov.
Unwyd y ddau deitl yn 2006 a daeth Anand yn Bencampwr y Byd yn 2007 pan enillodd dwrnament gafodd ei drefnu gan FIDE yn Ninas Mexico. Cafodd gyfle i amddiffyn ei deitl yn 2008 mewn gêm yn erbyn Vladimir Kramnik yn Bonn, Yr Almaen, ac enillodd o 6½ - 4½. Mae'n un o bedwar chwaraewr yn hanes y gêm i gael graddfa ELO dros 2800.


