Gêmau Gwyddbwyll

  • Increase font size
  • Default font size
  • Decrease font size

Siachmat Mewn Un Symudiad

Siachmat Mewn Un Symudiad

Mae datrys posau Siachmat mewn un yn ffordd ardderchog o hogi'r meddwl a dysgu mwy am Wyddbwyll. Ym mhob un o'r enghreifftiau hyn dim ond un ffordd gywir sydd o gael Siachmat. Os wyt ti'n methu'n lân a chanfod yr ateb rho glec i'r ddolen o dan y bwrdd Gwyddbwyll.

Cyfarwyddiadau: Cydia mewn darn (clic chwith a'i ddal) a'i symud i sgwar arall. Os mai hwn yw'r symudiad sy'n cael Siachmat bydd y wefan yn dy longyfarch!  Os nad hwn yw'r symudiad  fe fydd y wefan yn gofyn i ti roi cynnig arall arni.

Siachmat Mewn Un - Gwyn i Symud

Rhif 1 Rhif 2 Rhif 3 Rhif 4 Rhif 5Rhif 6Rhif 7 Rhif 8 Rhif 9 Rhif 10
Rhif 11Rhif 12Rhif 13Rhif 14Rhif 15     

Siachmat Mewn Un - Du i Symud

Rhif 1 Rhif 2 Rhif 3 Rhif 4 Rhif 5 Rhif 6 Rhif 7 Rhif 8 Rhif 9 Rhif 10

Mae'r tudalennau sy'n cynnwys y posau wedi cael eu profi ac yn gweithio'n iawn gyda porwr Firefox 3 ar sawl system weithredu (Windows, Mac a Linux). Maen nhw'n gweithio'n iawn hefyd gyda Safari (Mac), Google Chrome (Windows), a gyda rhai fersiynau o Internet Explorer (IE7). Nid yw porwr Opera yn medru darllen y tudalennau. Os wyt ti'n cael problem wrth eu darllen, yr ateb yw defnyddio porwr gwe o safon uchel.