Judit Polgár (ganed Gorffennaf 23, 1976) yw'r chwaraewr Gwyddbwyll benywaidd cryfaf yn hanes y gêm. Pan ddaeth Polgár yn Uwchfeistr gwyddbwyll yn 15 oed yn 1991, hi oedd y person ifancaf erioed bryd hynny i ennill y teitl. Mae wedi bod ymhlith 10 chwaraewr cryfa'r byd, gyda'i graddfa ELO ar ei uchaf yn 2735 yn 1995. Mae ganddi arddull chwarae ymosodol ac agored.
Mae Judit Polgár yn Iddewes ac fe'i magwyd yn Budapest. Hi yw'r ifancaf o dair chwaer sy'n chwarae Gwyddbwyll, ac mae'r hynaf Susan Polgár hefyd yn Uwchfeistr, a'r chwaer ganol Zsofia Polgár yn Feistr Rhyngwladol. Credai eu tad, László Polgár nad yw pobl o athrylith yn cael eu geni felly ond yn cael eu creu, ac aeth ati i geisio profi hyn drwy hyfforddi ei ferched i chwarae Gwyddbwyll i'r safon uchaf.
Judit Polgár yw'r unig ferch yn hanes y gêm i gystadlu fel Ymgeisydd am Bencampwriaeth y Byd.


